Annwyl Gyfaill
Ymgynghoriad ar Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu
Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cynnal ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu.
Cylch gorchwyl
Cylch gorchwyl y Pwyllgor ar gyfer ei ymchwiliad yw ystyried:
- Effaith ehangu'r meini prawf cymhwystra am Fathodyn Glas yng Nghymru, ac a oes angen ehangu pellach ar y meini prawf;
- Gweithredu ymarferol a chysondeb o ran cynllun y Bathodyn Glas ledled Cymru, gan gynnwys asesiadau, ffioedd a gorfodi; ac
- Y gefnogaeth a'r wybodaeth sydd ar gael i bobl sy'n gwneud cais am fathodyn glas yng Nghymru.
Gwahoddiad i gyfrannu i'r ymchwiliad
Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gynorthwyo yn ei waith o ystyried yr ymchwiliad. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddefnyddio’r cylch gorchwyl uchod i lunio eich ymateb.
Dylai sylwadau gyrraedd erbyn 1 Mawrth 2019 fan bellaf.
Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i: SeneddCymunedau@cynulliad.cymru
Canllawiau
Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y cylch gorchwyl.
Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.
Gweler y canllawiau i dystion sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgorau.
Polisi dwyieithrwydd
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu'r llall o'n hieithoedd swyddogol, Cymraeg a Saesneg, neu'r ddwy. Os na chyflwynir gwybodaeth yn ddwyieithog, ni fydd yn cael ei chyfieithu, a chaiff ei chyhoeddi yn yr iaith y cafodd ei chyflwyno ynddi yn unig. Disgwyliwn i sefydliadau weithredu eu safonau a’u cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â’u rhwymedigaethau statudol.
Datgelu gwybodaeth
Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliadcymru.org/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Dylech sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Os hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt a ganlyn:
Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA
E-bost: SeneddCymunedau@cynulliad.cymru
Rhif ffôn: 0300 200 6565
Yn gywir,
John Griffiths AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau